ACTIVATE SIM

Samsung Galaxy S7 Edge

26th April 2017

£589

Mae Samsung ar flaen y gad wedi iddynt ryddhau’r Samsung Galaxy S7 edge, sy’n llawn steil. Mae ymylon crwn deuol a pheirianneg ergonomaidd yn gwneud y ffôn hwn yn un gwirioneddol unigryw.

Clear
Quantity:
SKU: N/A Categories:

Trosolwg

Crynodeb o’r Samsung Galaxy S7 edge

  • Cerdyn Micro SD
  • IP68 – yn gallu gwrthsefyll dŵr/llwch
  • Camera cefn 12MP a chamera blaen 5MP
  • Camera yn cynnwys f1.7 a ffocws awtomatig cyflym
  • Gwefru diwifr cyflym, yn hytrach na gwefru diwifr yn unig*
  • Sgrin ymyl deuol 5.5″ QHD Super AMOLED
  • Batri 3,000 mAh
  • Android Marshmallow 6.01
  • Yn barod ar gyfer 4G

Trosolwg o’r Samsung Galaxy S7 edge

Mae Samsung ar flaen y gad unwaith eto wedi iddynt ryddhau’r Samsung Galaxy S7 edge, sy’n llawn steil. Gyda’i ymylon crwn deuol a pheirianneg ergonomaidd, mae’r ffôn hwn yn teimlo’n gwbl gyfforddus yn eich llaw, ac mae e flynyddoedd o flaen ei gystadleuwyr.

Dal yr eiliad berffaith

Peidiwch â cholli dim byd. Mae’r camera Picsel Deuol 12MP trawiadol yn gyflymach nag erioed, ac mae’n dal delweddau clir a manwl ddydd a nos.

Pwerus a chadarn

Mae’n gweithio ar gyflymder uchel trwy’r dydd. O dan bob dim y mae’r prosesydd octa-core 2.3GHz pwerus. Gan ychwanegu’r batri 3,600 mAh gwych at hynny, gallwch fynd nerth eich traed trwy’r dydd.

Gwefru diwifr heb orfod aros

Mae gwefru cyflymaf erioed Samsung yn ei wneud yn haws nag erioed i wefru eich ffôn i’r top*. Dyna dda!

Does dim angen i chi boeni nad oes digon o le ar eich ffôn

Peidiwch â chael eich dal heb le ar eich ffôn eto. Mae’r MicroSD yn dychwelyd ar y Galaxy S7 edge. Gallwch ychwanegu hyd at 200GB ychwanegol pan fydd angen ychydig mwy o le yn eich ffôn.

Steil heb ei debyg

Llinellau glân, delweddau llachar ac yn edrych fel petai’n dod o’r dyfodol, mae’r Samsung Galaxy S7 edge yn berfformiwr heb ei ail ym mhob maes. Ni chewch eich siomi gan y ddyfais hon.

*Nid yw’r gwefrydd diwifr yn gynwysedig.

Manylion

Manylion cyffredinol

Côf mewnol:

32GB (Gallu cael ei ehangu o hyd at 200GB)

Maint:

150.9mm x 72.6mm x 7.7mm

Pwysau:

157g

Arddangos:

5.5″ QHD sAmoled

Batri:

3600mAh

Chipset:

Exynos 8890

CPU:

Octa-Core (2.3GHz Quad + 1.6GHz Quad)

RAM:

4GB

System weithredu :

Android Marshmallow 6.01

SIM:

Nano-SIM

Synwyryddion:

Ôl-bys, acceleromedr, gyro, agosrwydd, cwmpawd, baromedr, cyfradd y galon, SpO2

Adloniant

Camera:

Camera picsel deuol 12MP gyda:

sefydlogi delweddau optegol, ffocysu awtomatig, fflach LED, lens f1.7 llachar iawn

Camera sylfaenol:

Picsel deuol 12MP, lens F1.7, synhwyrydd delwedd 1.4um picsel

Camera eilaidd:

5MP

Cysylltiad:

Rhwydwaith:

4G (LTE Cat 9)

Cysylltiad:

Bluetooth, WiFi, GPS

If you continue to use this website, you give permission for RWG Mobile to use cookies. Mwy o wybodaeth

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close