ACTIVATE SIM

Siop

iPhone SE
iphonese-gray-select-2016_2iphone_se_leftiphone_se_back

iPhone SE

£319£369

Mae’r iPhone SE yn cymryd cynllun hynod boblogaidd ac yn ei fireinio hyd yn oed yn fwy. Mae wedi ei greu o alwminiwm mewn dull ffrwydro gleiniau ar gyfer gorffeniad sydd fel sidan, ac mae’r ffôn ysgafn a bach hwn wedi ei gynllunio er mwyn ffitio’n gyfforddus yn eich llaw. Mae sgrin arddangos Retina 4 modfedd yn gwneud i bopeth edrych yn fywiog ac yn siarp. Ac mae’r ymylon siamffrog-matte a logo dur di-staen yn yr un lliw yn creu gorffeniad da.

Clear
Quantity:
SKU: N/A

Lliw

Rhosyn Aur

Aur

Arian

Trosolwg

Crynodeb o’r iPhone SE

  • Apple iPhone SE
  • Ffôn clyfar
  • 4G LTE
  • 16GB/64 GB
  • CDMA / GSM
  • 4″
  • 1136 x 640 picsel (326 ppi)
  • Retina
  • 12 MP (1.2 MP camera blaen)
  • Rhosyn Aur/Aur/Arian

Trosolwg o’r iPhone SE

Mae’r iPhone SE yn cymryd cynllun hynod boblogaidd ac yn ei fireinio hyd yn oed yn fwy. Mae wedi ei greu o alwminiwm mewn dull ffrwydro gleiniau ar gyfer gorffeniad sydd fel sidan, ac mae’r ffôn ysgafn a bach hwn wedi ei gynllunio ffitio’n gyfforddus yn eich llaw. Mae sgrin arddangos Retina 4 modfedd yn gwneud i bopeth edrych yn fywiog ac yn siarp. Ac mae’r ymylon siamffrog-matte a logo dur di-staen yn yr un lliw yn creu gorffeniad da.

Sglodyn grymus ar gyfer y perfformiad gorau posibl

Yng nghanol yr iPhone SE y mae’r A9, sef yr un sglodyn datblygedig ag sydd mewn iPhone 6s. Gyda’i bensaernïaeth 64-did sydd o’r un ansawdd â bwrdd gwaith, mae’r sglodyn A9 yn rhoi cyflymder ac ymateb anhygoel i chi. A gyda pherfformiad graffeg sydd ar yr un lefel â chonsol, mae eich hoff gemau ac apiau yn hynod o gyfoethog, a gallwch ymgolli ynddynt, sy’n ei wneud yn sglodyn grymus ar gyfer y perfformiad gorau posibl. Mae’r cyd-brosesydd symudiad M9, sydd wedi ei ymgorffori yn syth i’r sglodyn A9, yn cysylltu â’r mesurydd cyflymder, y cwmpawd a’r geirosgop er mwyn rhoi amrywiaeth o alluoedd tracio ffitrwydd, fel mesur eich camau a’ch pellter. Hefyd, mae’n hawdd agor Siri - yr holl sydd angen i chi ei wneud yw dweud “Hei Siri” heb orfod codi eich ffôn.

Camera iSight 12-megapicsel

Gyda chamera iSight 12-megapicsel, byddwch yn siŵr o dynnu lluniau manwl, clir fel y rhai sy’n cael eu tynnu ar iPhone 6s. Mae hynny’n cynnwys ffilmio - a hyd yn oed golygu - fideo 4K gwych, sydd hyd at bedair gwaith yn fwy eglur na fideos manylder uwch 1080p. Mae ffotograffau byw yn dod â’ch lluniau llonydd yn fyw gyda sain a symud. Yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dal eich bys unrhyw le ar eich llun 12-megapicsel a gallwch brofi’r eiliadau cyn ac ar ôl iddo gael ei dynnu, sy’n troi eich lluniau yn atgofion byw. Nid lle i weld eich cynnwys yn unig yw’r sgrin arddangos - mae’n fflach ar gyfer eich camera manylder uwch FaceTime. Mae’n cael ei bweru gan sglodyn arddangos arbennig sy’n galluogi’r sgrin arddangos i fflachio tair gwaith yn fwy llachar nag arfer, ac mae’r Fflach Retina yn helpu chi i ychwanegu golau at eich hunluniau mewn golau isel ac yn ystod y nos. Ac mae fflach True Tone yn cyd-fynd â’r golau o’ch cwmpas er mwyn dangos y lliwiau sydd yno go iawn a lliw croen sy’n edrych yn naturiol.

Gallwch weld eich ffotograffau yn unrhyw le

Mae llyfrgell luniau iCloud yn storio pob llun a fideo rydych yn eu tynnu, ac yn eu diweddaru ar eich holl ddyfeisiau. Bydd unrhyw olygu rydych yn ei wneud i’r llun yn cael ei ddiweddaru ym mhob man, felly gallwch weld llun o’r wythnos ddiwethaf neu’r flwyddyn ddiwethaf yn unrhyw le.

Y cyfrinair perffaith: ôl eich bys

Mae Touch ID yn gwneud datgloi eich iPhone SE yn syml ac yn ddiogel. Wedi’r cyfan, ôl eich bys yw’r cyfrinair perffaith – mae pob un yn wahanol, ac mae’n amhosibl ei golli.

System dalu Apple yw’r ffordd fwyaf diogel o dalu

Mae Touch ID yn gwneud mwy na thalu am eich ffôn. Hefyd, mae’n gadael i chi ddefnyddio Apple Pay mewn dwy filiwn o siopau ac o fewn apiau. Mewn siopau, yr oll sydd angen i chi ei wneud yw dal eich iPhone yn agos at y darllenydd gyda’ch bys dros y Touch ID, a dyna ni. Ac oherwydd na chaiff manylion eich cerdyn eu rhannu o gwbl gan Apple gyda gwerthwyr na’u storio ar eich teclyn, defnyddio System Apple Pay yw’r ffordd hawsaf o dalu.

Wi-Fi ac LTE – hyd yn oed yn gyflymach na’r iPhone 5s

Gallwch bori’r we, lawrlwytho apiau a gemau, a chwarae fideos ar Wi-Fi ac LTE 802.11 - a hynny’n gyflymach na’r iPhone 5s, hyd yn oed. Ac mae mwy o fandiau LTE yn gwneud yr iPhone SE yn well ar gyfer gwneud galwadau o bedwar ban byd. Hefyd, mae’r iPhone SE yn cefnogi Voice over LTE a galwadau Wi-Fi, ar gyfer gwneud galwadau band llydan o ansawdd uchel. A gyda thechnoleg Bluetooth, gallwch gysylltu â’ch Apple Watch, uchelseinyddion allanol a dyfeisiau eraill.

Mae wedi ei ddylunio er mwyn edrych yn ddeniadol a gweithio’n berffaith

Gyda rhyngwyneb sy’n hawdd ei ddefnyddio, nodweddion rhyfeddol, a diogelwch yng nghanol pob dim, iOS 9 yw’r system weithredu symudol fwyaf modern, a dyma sylfaen yr iPhone SE. Mae wedi ei ddylunio er mwyn edrych yn ddeniadol a gweithio’n berffaith ar eich iPhone, fel y gallwch fwynhau hyd yn oed y tasgau symlaf.

Manylion

Manylion cyffredinol

Enw’r model:

A1662/A1723

Côf Mewnol:

16 GB/64 GB

Maint:

123.8mm x 58.6mm x 7.6mm

Pwysau:

113g

Arddangosfa:

Sgrin gyffwrdd 4″ Retina (326ppi)

Batri:

1570 mAh

Amser Siarad:

hyd at 14 awr (3G)

Chipset:

Sglodyn A9 Apple gyda phensaernïaeth 64-did, Cyd-brosesydd symudiad M9

CPU:

Dual-core 1.8 GHz

GPU:

PowerVR GT7600

RAM:

2 GB

System weithredu:

iOS 9

SIM:

Nano

Synwyryddion:

Synhwyrydd adnabod drwy gyffyrddiad ôl bys Touch ID, gyro tair echel, Acceleromedr, synhwyrydd golau amgylchynol.

Adloniant

Chwarae fideo:

Hyd at 13 awr:

Fideo:

Recordio fideo 4K (3840 a 2160) ar 30 fps, recordio fideo 1080p manylder uchel ar 30 fps neu 60 fps

Camera sylfaenol:

Camera iSight 12MP gyda 1.22µ picsel, agorfa ƒ/2.2

Camera eilaidd:

1.2MP, agoriad ƒ/2.4

Cysylltedd

Rhwydwaith:

4G LTE

Cysylltedd:

Wi-Fi 802.11 a/b/g/n/ac, technoleg ddiwifr Bluetooth 4.2, NFC

Adolygiadau

Does dim adolygiadau eto.

Byddwch y cyntaf i farnu “iPhone SE”

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

If you continue to use this website, you give permission for RWG Mobile to use cookies. Mwy o wybodaeth

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close