Lliwiau
- Aur Rhosyn
- Aur
- Arian
- Du
- Du tywyll
Trosolwg
Crynodeb o’r iPhone7- Apple iPhone 7
- Ffôn clyfar
- 4G LTE datblygedig
- 32GB/128GB/256 GB
- GSM
- 4.7″
- 1334 x 750 picsel (326 ppi)
- Retina HD
- 12 MP (7 Camera Blaen)
- Arian/Du/Du Tywyll/Aur/Aur Rhosyn
Trosolwg o’r iPhone 7
Mae iPhone 7 yn gwella agweddau mwyaf pwysig y profiad o’r iPhone. Mae’n cyflwyno system camera newydd datblygedig. Y perfformiad ac oes batri gorau erioed mewn iPhone. Seinyddion stereo trochi. Y sgrin arddangos mwyaf llachar a lliwgar ar iPhone. Gallu gwrthsefyll diferion a dŵr. Ac mae’r un mor bwerus ag y mae’n edrych. Dyma’r iPhone 7. Mae iPhone 7 yn cyrraedd lefel newydd o ddyfeisgarwch a manyldeb. Nid yw’r gorffeniad yn debyg i unrhyw beth y mae Apple wedi ei wneud o’r blaen. Mae’r clawr yn gallu gwrthsefyll diferion a dŵr. Nawr rydych wedi eich gwarchod yn well nag erioed rhag diferion, dwr a hyd yn oed llwch. Mae’r botwm cartref wedi ei ail-greu’n llwyr. Ac oherwydd y cynllun unffurf sy’n ddi-dor wrth i chi ei gyffwrdd, mae’r iPhone 7 yn teimlo mor anhygoel ag y mae’n edrych.
Croeso gartref
Mae’r botwm gartref ar yr iPhone 7 yn fotwm datblygedig cadarn wedi ei gynllunio i fod yn gryf, ymatebol a sensitive i wasgedd. Gan weithio ar y cyd â’r peiriant Taptic arloesol, mae’n rhoi adborth manwl cyffyrddadwy wrth i chi ei wasgu. A gallwch hyd yn oed ei addasu i’ch steil chi. Croeso gartref.
Synhwyrydd ôl bys datblygedig
Gan ddefnyddio synhwyrydd datblygedig sydd mor gyflym ag erioed, mae TouchID yn gwneud datgloi eich iPhone yn hawdd ac yn ddiogel.
System Apple Pay yw’r ffordd fwyaf diogel o dalu
Gydag iPhone, gallwch dalu’n syth ac yn ddiogel mewn siopau, mewn apiau ac ar y we. Ac oherwydd na chaiff manylion eich cerdyn eu rhannu o gwbl gan Apple â gwerthwyr na’i storio ar eich teclyn, defnyddio System Apple Pay yw’r ffordd hawsaf o dalu.
Helo, pishyn
Mae Apple wedi ail-lunio camera hyfryd yr iPhone, gan ychwanegu sefydlogi delwedd optegol, agoriad ƒ/1.8, a lens chwe elfen i’w wneud hyd yn oed yn well ar gyfer saethu ffotograffau a fideos mewn golau isel. A gyda nodweddion newydd datblygedig fel lluniau lliw eang, bydd eich ffotograffau a’ch ffotograffau byw yn edrych hyd yn oed yn fwy clir. Nid yn unig y mae’r camera manylder uwch FaceTime o ansawdd gwell, ond mae hefyd yn defnyddio lluniau lliw ehangach. Felly nawr fe allwch dynnu hunluniau cliriach a mwy bywiog. Poeni am oleuo? Mae’r Flash Retina yn gweddu i’r golau amgylchol ar gyfer llun gyda lliw croen naturiol yr olwg. Helo, pishyn. Pam fod y camera ar iPhone 7 mor ddatblygedig? Mae ganddo brosesydd signal llun datblygedig a gynlluniwyd gan Apple wedi ei adeiladu i’r sglodyn A10 Fusion. Pan fyddwch yn tynnu llun neu fideo, mae’r ISP yn rhoi pŵer i dros 100 biliwn o weithrediadau a hyd yn oed yn defnyddio dysgu peiriant i wneud i’ch lluniau edrych yn wych. Mae gwelliannau eraill yn cynnwys ffocws cyflymach a mapio tôn lleol a chydbwysedd gwyn gwell.
Mwy disglair a lliwgar
Mae bron popeth yr ydych yn ei brofi gyda’ch iPhone yn dod yn fyw ar eich sgrin arddangos. Dyma ble’r ydych yn edrych ar y ffotograffau, negeseuon, newyddion a’r pethau amrywiol eraill sy’n llenwi’ch diwrnod. Mae sgrin arddangos yr iPhone 7 yn defnyddio’r un gwagle lliw â’r diwydiant sinema ddigidol, felly bydd yr hyn a welwch lawer yn fwy disglair a bywiog. Achos rydym ni gyd yn haeddu ychydig mwy o ddisgleirdeb yn ein diwrnod.
3D Touch
Pan fyddwch yn defnyddio 3D Touch, bydd eich iPhone yn ymateb gyda churiadau ysgafn. Felly, nid yn unig y byddwch yn gweld beth mae gwasgu yn ei wneud - byddwch yn ei deimlo hefyd. Mae’r sgrin arddangos Retina manylder uwch ar yr iPhone 7 yn integreiddio 3D Touch yn ddwfn trwy iOS. Nawr fe allwch ryngweithio gyda’r apiau Messages, Calendar, Mail, ac apiau eraill mewn ffordd fwy pwerus ac ymatebol.
Mae iPhone 7 yn gwneud sŵn. Llawer o sŵn
Am y tro cyntaf, mae iPhone yn dod gyda seinyddion stereo, sy’n creu dwywaith yr allbwn sain sydd gan iPhone 6s ac ystod dynamic uwch. Felly, p’un ai rydych yn gwrando ar gerddoriaeth, gwylio fideos neu’n gwneud galwadau allan yn uchel, mae iPhone 7 yn gwneud sŵn. Llawer o sŵn.
Symlrwydd a thechnoleg, gyda’i gilydd yn well nag erioed
Mae iPhone 7 yn dod gyda EarPods sydd â chysylltydd Lightning. Ond os ydych eisiau gwrando trwy’ch hen glustffonau, gallwch eu plygio nhw i mewn gan ddefnyddio addaswr jac clustffonau 3.5 mm sydd hefyd yn gynwysedig. Mae’r AirPods yn cynnig profiad gwrando newydd sbon. Mae’r clustffonau eedi eu cynllunio’n ofalus iawn o ran technoleg y tu mewn i ddyfais fechan iawn, ac maent yn cyfuno sain glir fel grisial gyda theimlad newydd o ryddid. Symlrwydd a thechnoleg gyda’i gilydd, yn well nag erioed. Mae’r canlyniad yn hollol hudol.
Teithio
Mae gan yr iPhone 7 LTE datblygedig, gyda chyflymder o hyd at 450 Mbps ar gyfer lawrlwythiadau data -dros 50 y cant yn gyflymach na iPhone 6s a thair gwaith yn fwy cyflym na iPhone 6. A diolch i hyd yn oed mwy o fandiau LTE bands, bydd gennych y trawsrwydweithio byd-eang gorau sydd ar gael mewn ffôn clyfar. Pob lwc ar eich teithiau.
Voice over LTE
Mae iPhone 7 yn cefnogi Voice over LTE - galwadau band eang o ansawdd uchel sy’n sicrhau bod eich sgyrsiau yn swnio mor glir â phe byddech yn siarad wyneb yn wyneb. Pan nad ydych yn gallu cael gwasanaeth cellog, mae ffonio Wi-Fi yn ffordd hawdd o wneud a derbyn galwadau dros gyswllt Wi-Fi. A nawr mae’r ddau yn cael eu cefnogi ar hyd yn oed fwy o gludwyr ledled y byd. Does dim ots o ble y daw eich galwad, bydd iPhone 7 yn gallu ei hateb fel galwad arferol. Gallwch hyd yn oed gael mynediad i’rrhifau yn eich ffôn a mynd at alwad arall sy’n eich disgwyl.
Wedi i chi brofi iOS, byddwch yn deall pam fod gymaint o bobl wrth eu bodd yn defnyddio iPhone!
Mae iOS yn dod ag iPhone yn fyw mewn ffyrdd anhygoel o bersonol a phwerus. Mae’r rhyngwyneb yn hardd ac yn hawdd ei ddefnyddio. Mae awgrymiadau deallus yn ymddangos pan fyddwch eu hangen. Ac mae technolegau datblygedig yn amddiffyn eich preifatrwydd a’ch diogelwch. Ar ôl i chi brofi iOS, byddwch yn deall pam fod gymaint o bobl wrth eu bodd yn defnyddio iPhone!