British Telecom, France Telecom, Deutsche Telecom, Eircom. Os ydych yn meddwl am wlad byddwch yn gallu enwi ei rhwydwaith ffôn symudol yn hawdd. Ond nid Cymru. Ni chynrychiolir gwlad sydd â rhwydwaith cyfathrebiadau mewn modd sy’n adlewyrchu’r genedl, sef gwlad â thros 3m o bobl a’r 34ain wlad fwyaf yn Ewrop allan o 51.
Rhaid i genedl fodern gael darparwr cyfathrebiadau sy’n adlewyrchu ei hun yn haeddiannol ac yn deall anghenion ei phobl a’i diwylliant. Mae’r rhan fwyaf o ddiwydiannau yn awr yn adlewyrchu Cymru felly, ond parha telegyfathrebiadau i fod yr olaf i adlewyrchu personoliaeth yn hyn o beth. Gwasanaethir marchnad delgyfathrebiadau presennol Cymru gan fusnesau lleol ag adnoddau annigonol neu Weithredwyr Rhwydwaith Symudol mawr sy’n anwybodus am y gwahaniaethau diwylliannol mae poblogaeth Cymru yn eu cynrychioli.
Crëwyd Rhaglen Ddigidol Cymru gan Lywodraeth Cymru yn 2010 i “Wneud Cymru yn Genedl Ddigidol”, ond yn absenoldeb rhwydwaith telegyfathrebiadau mae’n anodd datgan bod camau cadarnhaol yn cael eu gwneud ond mae RWG Mobile wedi cael ei sefydlu i lenwi bwlch yn y rhaglen honno.
Ar hyn o bryd mae 16% o ddefnyddwyr ffonau symudol yng Nghymru yn datgan eu bod yn eithaf anfodlon neu’n anfodlon iawn gyda’u rhwydwaith symudol. Y prif resymau am hyn yw cyflymder rhyngrwyd, gwobrau neu gynigion arbennig a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae defnyddwyr ffonau clyfar yng Nghymru yn cynyddu 8% y flwyddyn. Golyga hyn bod mwy o bobl nag erioed yn dechrau mwynhau cyfathrebiadau 3G a 4G. Fodd bynnag, parha bwlch sylweddol o’i gymharu â chyfartaledd y DU. Mae defnyddwyr cyfrifiaduron llechen ar gynnydd 24% y flwyddyn ond llai na hanner y boblogaeth sydd yn berchen ar un. Mae argaeledd 4G yn gofalu am 45% o’r cyfanswm poblogaeth yn unig o’i gymharu â 73% ledled gweddill y DU.
Yn sicr iawn rhaid i bethau newid……