Mae gan Gymru wir ymdeimlad o berthyn.
Cyn y lansiwyd RWG Mobile, nid oedd rhwydwaith ffôn symudol a berthynai i Gymru. Rhwydwaith ffôn a redwyd gan bobl yng Nghymru, i bobl yng Nghymru. Un gyda gwasanaeth Cymraeg yn safonol.
Aeth RWG Mobile ati i newid hynny.
Mae RWG Mobile gyda’r cwsmer yn greiddiol iddo. Rydym yn gofalu amdanynt drwy ddarparu cynnyrch a gwasanaethau arloesol i’r rhai sy’n byw a gweithio yng Nghymru, a’n ffrindiau sy’n dod i ymweld.
Rydym yn angerddol am wasanaeth da a phopeth Cymraeg. Dyna pam ein bod â thîm o bobl angerddol, wrth law yng Nghymru, sydd bob amser yn hapus i ateb unrhyw ymholiad sydd gennych. Mawr neu fach. Yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae gan bron i holl wledydd eraill Ewrop eu rhwydweithau ffôn symudol eu hunain. Felly efallai nad ydym yn sefydlu tuedd, ond ni yw’r wlad gyntaf yn y DU i gael rhwydwaith ffôn symudol ymroddedig. Oherwydd pam na ddylai pobl Cymru gael y cwbl?