Polisi Cwynion
Os nad ydym wedi datrys mater fel yr oeddech wedi disgwyl, mae gan RWG Mobile y weithdrefn ffurfiol ganlynol ar gyfer trin cwynion.
EIN HYMRODDIAD I CHI
Yn yr achos annhebygol eich bod â phroblem gyda gwasanaeth RWG Mobile, cwblhewch ein ffurflen ar-lein neu e-bostiwch eich cwyn i support@rwgmobile.wales. Anelwn bob amser i ddatrys eich mater yn gyflym ac effeithlon.
SUT ALLWCH GWYNO
Dyma’r ffyrdd y gallwch gwyno i ni:
Ar-lein
Ewch i www.rwgmobile.wales/contact-us a llenwch y ffurflen a ddarperir.
Sicrhewch eich bod yn cynnwys eich enw defnyddiwr RWG Mobile a natur eich cwyn.
Drwy e-bost
Gyrrwch eich cwyn i support@rwgmobile.wales.
Sicrhewch gynnwys eich enw defnyddiwr RWG Mobile a natur eich cwyn.
Drwy’r post
Gyrrwch lythyr i’r cyfeiriad isod. Sicrhewch gynnwys eich enw defnyddiwr RWG Mobile a natur eich cwyn:
Rheolwr Gwasanaeth Cwsmeriaid
Red White & Green Communications Limited
Tŷ Merlin, Parc Langstone,
Casnewydd
NP18 2HJ